14/11/2007

Cytuno ar Reolau Traffig

SCROLL DOWN FOR ENGLISH
Mae’r llinellau melyn a argymhellwyd ar gyfer nifer o strydoedd o gwmpas Ysbyty Bronglais wedi eu cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor Sir erbyn hyn. Roedd yna dri gwrthwynebiad, er bod un o’r rhain oddi wrth rhywun y tu allan i’r Sir. Mae’n debyg y gosodir y llinellau cyn y Nadolig fel y caniateir o dan bwysau’r Adran Briffyrdd.

Gwnaed y cynlluniau yn dilyn nifer o gwynion ynglŷn â gor-barcio sy’n achosi problemau mynediad a phasio dybryd yn yr ardal a’r cyfan yn gysylltiedig â cheisiadau penodol oddi wrth y trigolion.

I grynhoi dyma’r cynlluniau:
Ffordd Caradog: Llinellau melyn dwbwl ar gornel y groesffordd gyda Choedlan Iorwerth - i atal cerddwyr rhag cael eu rhwystro, i ddarparu lle i geir basio ac i ganiatau moduron i droi’r gornel.
Cae’r Gog: Llinellau melyn dwbwl ar y corneli i Ffordd Caradog – er mwyn galluogi cerbydau i droi y gornel.
Ffordd Ddewi: Llinellau melyn dwbwl ar bob pen ar yr ochr chwith (yn mynd tuag at yr ysbyty) – i alluogi cerbydau mwy o faint i fynd trwyddo. Cafodd y llinellau yn y cynigiad drafft gwreiddiol ar yr ochr dde ar y pen yng Nghoedlan Iorwerth eu dileu yn dilyn sylwadau pryderus am golli llefydd parcio.
Ffordd y Buarth: Llinell felen sengl ar ochr fewnol y tro yn arwain i fyny o Ffordd Llanbadarn – i alluogi moduron i basio ei gilydd ar y rhiw yn ystod y dydd. Dim cyfyngiadau ar ôl 6y.h.

Cytunwyd hefyd ar linellau melyn i Dan y Coed ac Elysian Grove/Cae Melyn.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, gwnaed y pwynt gan llawer o drigolion, er nad yn gwrthwynebu’r cynllun, yr angen am barcio i drigolion. Daeth yn glir mewn trafodaeth ddiweddar y Pwyllgor Rheolaeth Traffig nad oes gan Swyddogion yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad i hyn a’u bod yn deall y problemau sy’n wynebu’r trigolion. Nid dyma oedd yr achos ond rai blynyddoedd yn ôl. I’r graddau hyn, gellir dweud bod cynnydd wedi ei wneud. Fodd bynnag mae’r swyddogion cydymdeimladol yma wedi cael eu goruwchreoli’n barhaus gan aelodau olynol o Gyngor Cabinet i’r Priffyrdd – h.y. y cynghorydd yng ngofal adran Priffyrdd.

Ray Quant sy’n dal y swydd ar hyn o bryd, sydd fel ei ragflaenydd Keith Evans (Arweinydd y Cyngor nawr), wedi gwneud yn glir ei fod yn gwrthwynebu trigolion yn parcio mewn egwyddor nad yw er budd pobl o rannau eraill o’r Sir. Yn anffodus mae ei benderfyniad yn derfynol. Fodd bynnag mae’r ffaith bod swyddogion proffesiynol y Cyngor yn ystyried bod parcio i drigolion yn ymarferol, o gael y cyllid, yn rhoi gobaith i’r dyfodol. Mae’n anodd diystyru’r casgliad mai’r hyn sydd ei angen ar gynllun parcio trigolion i Aberystwyth yw newid arweinyddiaeth gwleidyddol yn y Cyngor.

Gellir ysgrifennu at Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Priffyrdd o dan ofal Swyddfeydd y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA