28/12/2007

Prif Gynllun Aberystwyth yn Cefnogi Preswylwyr

SCROLL DOWN FOR ENGLISH
Mae’r drafft diweddara o Brif Gynllun Aberystwyth yn gadael llonydd i ardaloedd Bronglais a’r Buarth o’r dref o ran y cynlluniau ar gyfer y datblygiadau sy’n cael eu cynnig ar gyfer rhannau eraill o’r dref. Yn yr ardal hon, dywed y Cynllun, “Dylid sicrhau a gwella ansawdd bywyd y trigolion”. Fodd bynnag, mae yn gwneud argymelliadau ar gyfer rheoli traffig yn yr ardal nad ydynt wedi cael eu crybwyll yn y wasg leol:
Rhwystro mynediad i bob stryd yn ardal y Buarth ar gyfer trigolion lleol ac er mwyn darparu gwasanaethau yno;
* Cau Lle’r Ffald ar ochr Stryd y Dollborth er mwyn symleiddio’r gyffordd ger Cornel y Cŵps;
* Estyn y llwybr cerdded a beicio o Blascrug i Lanbadarn;
* Diddymu statws Ffordd Llanbadarn a Rhiw Penglais fel Priffyrdd er mwyn galluogi traffig i gael eu cyfeirio o gwmpas yn hytrach na thrwy’r dref a lleihau tagfeydd o ganlyniad;
* Gwasanaeth Parcio a Theithio ychwanegol ar frig Rhiw Penglais;
* Un syniad (awgrym ydyw yn hytrach nag argymhelliad) yw dymchwel y pum tŷ ar ochr y dref o Stryd Thespis rhwng Rhodfa’r Gogledd a Stryd Cambria er mwyn i Stryd Thespis fod yn stryd ddwyffordd. Byddai hyn yn cael ei gyplysu gyda chyffordd newydd ar ddiwedd Stryd y Dollborth, Rhodfa’r Gogledd a Morfa Mawr er mwyn galluogi teithwyr i gyrraedd glan y môr yn haws.

Yn ychwanegol, mae Plascrug, caeau chwarae’r Ficerdy a Mynwent Ffordd Llanbadarn yn cael eu rhestru fel mannau gwyrdd sydd angen cael eu gwarchod.

Argymhellion eraill yn y Cynllun a fyddai’n cael effaith cadarnhaol ar ardaloedd Bronglais a’ r Buarth yw:
* Adnabod ardaloedd ar gyfer parcio i breswylwyr a sicrhau bod y defnydd o’r ardaloedd rhain yn cael eu monitro gan yr heddlu;
* Trosglwyddo rheolaeth dros barcio o’r heddlu i’r Cyngor Sir. Fe fyddai hyn yn galluogi i’r arian sy’n cael ei godi o ddirwyon parcio gael ei wario’n lleol er mwyn cyflogi digon o wardeiniaid traffig er mwyn monitro rheolau parcio yn hytrach na mynd i Drysorlys y DU.

Dylid cofio mai syniadau hir-dymor yw’r rhain a bod gan y Cyngor Sir hanes o beidio â gweithredu ar argymhellion sy’n cael eu gwneud mewn adroddiadau o’r fath. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod preswylwyr yn cael gwybod beth mae’r arbenigwyr allanol a gomisiynwyd gan y Cyngor yn ei ddweud. Fe fydd yr holl argymhellion yn cael eu hystyried.

Gallwch dderbyn copi o Brif Gynllun Aberystwyth, naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, drwy ddanfon neges at alunw@ceredigion.gov.uk.